Jwg (Jug), Paent, gwaith pwytho ac appliqué ar ddefnydd 1.00 x 1.60 1985

 Cafodd 'Jwg' ei greu yn fy stiwdio ym Manceinion yn 1985, yn fuan ar ôl i mi golli fy Mam. Roedd yn ffordd i mi ddod i delerau â'r golled ac i geisio gwneud synnwyr o'r teimladau yn fy meddwl ar y pryd.

Gan ddefnyddio’r broses o bwytho â llaw ac 'appliqué', fe welir siapiau annelwig yn llithro heibio ac elfennau atgofus yn 'rhwyfo yn yr awel'.

Er bod naws freuddwydiol i’r llun, mae wedi ei seilio ar amlinelliad o hen jwg dŵr enamel, gwrthrych cyfarwydd o’r stiwdio. Mae yma lu o gyferbyniadau – absenoldeb a phresenoldeb, y negyddol a’r cadarnhaol, a rhyw ymdeimlad o bellter ac o bylu. Ar y dde mae cae gwair fy nychymyg, tirwedd Maldwyn yr oeddwn yn hiraethu am ddychwelyd iddo.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987, enillodd 'Jwg' Fedal Aur y Campwaith Crefft gyda'r detholwyr Jean Muir, Stephen Bayley a Derrick E Turner yn gwneud y sylw canlynol:

"Mae ganddi ffordd hollol wreiddiol o ganfod, a gallu technegol eang a sylweddol iawn. Cafwyd argraff gyffredinol o waith nodedig. Gobeithia'r detholwyr y bydd y wobr yn anogaeth iddi barhau i feithrin ei thalent anghyffredin".

Jwg (Jug) Paint, hand stitching and appliqué on fabric 1.00 x 1.60 1985

'Jwg' ('Jug') was created in my Manchester studio in 1985, soon after my Mother died and was a way of coming to terms with my loss and making sense of the thoughts in my mind at that time. 

Using hand stitching and appliqué techniques, shapes drift across, and the memory of things pass through, as transient as finger marks on a steamy window. 

It is half dreamscape but hinges on the outline of an old enamel water jug, a familiar object from the studio. It is full of opposites - absence and presence, negative and positive and there is a sense of distance and fading away. On the right is a stylized hayfield as seen through my mind's eye, the Mid Wales landscape I was longing to return to.

In the 1987 National Eisteddfod of Wales, Porthmadog, 'Jwg' ('Jug') was awarded the Craft Masterpiece Gold Medal with selectors Jean Muir, Stephen Bayley and Derrick E Turner commenting: 

"She has a genuinely original eye, and an impressive range of technical competence. The general impression of her work was outstanding. We hope that the award of the prize will encourage the development of a remarkable talent”.